Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
16 Ebrill 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13872
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
NNDM8530 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 16 Ebrill 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
NNDM8529 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur)
Enwebwyd Buffy Williams gan Sarah Murphy. Eiliodd Carolyn Thomas yr enwebiad.
Gan fod gwrthwynebiad i’r enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiad i bleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2I
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur)
Enwebwyd Alun Davies gan Mike Hedges. Eiliodd Rhianon Passmore yr enwebiad.
Enwebwyd Sarah Murphy gan Buffy Williams. Eiliodd Hefin David yr enwebiad.
Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Canlyniadau
Am 17.03 cyhoeddodd y Llywydd ganlyniadau’r pleidleisiau cyfrinachol ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur):
Enwebai |
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
Buffy Williams |
37 |
7 |
13 |
57 |
Datganodd y Llywydd bod Buffy Williams wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur):
Alun Davies |
Sarah Murphy |
Ymatal |
Cyfanswm |
28 |
29 |
0 |
57 |
Datganodd y Llywydd bod Sarah Murphy wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Dechreuodd yr eitem am 14.54
Gohiriwyd yr eitem hon tan 21 Mai.
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM8533 Rebecca Evans Gŵyr
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).
Gosodwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Tachwedd 2023.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Senedd ar 15 Mawrth 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM8532 Rebecca Evans Gŵyr
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.43
NDM8531 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1-12;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 13-17;
d) Atodlen 2;
e) Adran 18;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 19-26;
h) Enw hir.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.43
Dechreuodd yr eitem am 16.47
NDM8539 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Seilwaith (Cymru).
Bil Seilawith (Cymru), fel yi diwygiwyd ar l Cyfnod 3
Dogfennau Ategol
Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
15 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.03
Daeth y cyfarfod i ben am 17.04
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 17 Ebrill 2024